SL(6)279 – Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio:

·           Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1781) (Cy. 170) (“Gorchymyn 2010”); a

·           Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/645) (Cy. 119) (“Gorchymyn 2018”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu darpariaethau yn y Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod sy’n darparu ar hyn o bryd fod Treth ar Werth (TAW) yn cael ei hychwanegu at ffioedd a godir o dan y Gorchymyn hwnnw.

Mae hefyd yn cynyddu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a ddarperir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion mewn perthynas â Gorchymyn 2018.

Mae erthygl 2 yn diwygio Gorchymyn 2010 er mwyn hepgor y geiriau “+ TAW” bob tro y maent yn digwydd yn yr Atodlen. O'r herwydd, ni fydd TAW yn daladwy bellach mewn cysylltiad â’r ffioedd a nodir yn y tabl.

Mae erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn 2018 er mwyn rhoi, yn lle’r Atodlen, Atodlen newydd sy’n darparu ar gyfer ffioedd uwch ar gyfer trwyddedu mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid.

Mae’r Atodlen newydd yn darparu fel a ganlyn.

·         Mae Tabl 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt yn esempt. Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach.

·         Mae Tabl 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt yn esempt. Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach.

·         Mae Tabl 3 yn nodi ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd. Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach.

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vii) (ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft)

Mae gwahaniaeth rhwng testun Cymraeg a Saesneg erthygl 3(2). Mae’r testun Saesneg wedi’i ddrafftio yn y ffordd arferol wrth gyflwyno diwygiadau i destunau dwy iaith deddfwriaeth ddwyieithog. Mae’n awgrymu i’r darllenydd fod diwygiadau’n cael eu gwneud i destun y ddwy iaith.

Fodd bynnag, nid yw testun Cymraeg erthygl 3(2) yn diwygio testun Cymraeg y diffiniad o “canolfan gasglu” yn erthygl 2 o Orchymyn 2018 gan ei fod eisoes yn gywir. Felly, mae wedi ychwanegu'r geiriau “yn y testun Saesneg” a nodir y geiriau a amnewidiwyd yn Saesneg yn unig. Dyma’r dull cywir pan nad oes ond angen diwygio testun Saesneg deddfiad dwyieithog, fel y bydd testun dwy iaith yr offeryn diwygio yn gwneud yr un newid i destun un iaith yn y ddeddfwriaeth bresennol.

Dylai testun Saesneg erthygl 3(2) o’r Gorchymyn hwn hefyd fod wedi cynnwys y geiriau “in the English language text” i nodi mai dim ond i destun Saesneg y testun presennol yn erthygl 2 o Orchymyn 2018 y mae’r diwygiad yn cael ei wneud.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

2. Rheol Sefydlog 21.3 (i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud newidiadau i’r ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaethau statudol a ddarperir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn unol â Gorchymyn 2010 a Gorchymyn 2018. 

 

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) (ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd)

Nid yw’r Memorandwm Esboniadol (“y Memorandwm”) sy’n cyd-fynd â’r Gorchymyn yn esbonio’r rheswm pam y mae TAW yn cael ei thynnu o’r ffioedd a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2010. Mae'n anodd felly i ddarllenydd ddeall y rhesymeg dros y newid hwn.

At hynny, mae paragraff olaf adran 4 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

Due to the lack of Wales specific data has been presented and used to estimate the impact to businesses in Wales, where possible.

 

Mae ystyr y paragraff hwn yn aneglur, sy’n ei gwneud yn anodd i’r darllenydd ddeall pa ddata a ddefnyddiwyd i amcangyfrif yr effaith ar fusnesau yng Nghymru, ac a yw’n ddigonol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau 1 a 3 uchod.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Tachwedd 2022